Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ionawr 2018
Amser:
09.30 -
10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4612
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Dyfed Alsop, Awdurdod Cyllid Cymru Kathryn Bishop, Awdurdod Cyllid Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kathryn Bishop, Cadeirydd, Awdurdod Refeniw Cymru, a chan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Refeniw Cymru ar y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.
3.2 Cytunodd y Prif Weithredwr i roi nodyn i'r Pwyllgor yn nodi'r hyn y bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn ei wneud yn ystod y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2018 i sicrhau bod gwaith y Gofrestrfa Tir ynghylch trafodiadau trawsffiniol yn cael ei gydlynu.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ym maes treth a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt:
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018
· Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018
7.1 Trafododd y Pwyllgor Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 a chytunodd i gyflwyno adroddiad arnynt.